Croeso i Lôn Las Môn | Welcome to Lôn Las Môn

Achos Cymunedol

Lôn Las Môn yw yr ymgyrch sydd yn cael ei gyrru gan y gymuned i ailddatblygu'r rheilffordd segur o Amlwch i Gaerwen, i fod yn llwybr hamdden aml-ddefnydd, gan greu llwybr 18 milltir, di-draffig, a chysylltu â Lôn Las Cefni (Glasffordd Môn), ar gyfer teithio ymlaen i Malltraeth.


Bydd y llwybr yn cysylltu cymunedau ar draws Ynys Môn mewn ffordd werdd drwy greu darn hygyrch i gerddwyr, rhedwyr, beicwyr, marchogwyr, tra hefyd yn sicrhau mynediad i bobl anabl i deithio mewn amgylchedd diogel, gan fod o fudd i breswylwyr, busnesau ac ymwelwyr.

Bydd yn cyfrannu at Lywodraeth Cymru a'r Cyngor lleol yn cyflawni cynlluniau "byw'n iach", a "theithio llesol", ac mae ganddo'r potensial i fusnesau bach presennol a newydd wasanaethu defnyddwyr y llwybr.


 

A Community Cause

Lôn Las Môn is the community driven campaign to redevelop the disused railway from Amlwch to Gaerwen, into a multi-use recreation path, creating an 18-mile, traffic-free route, and connecting with Lôn Las Cefni (Glasffordd Môn), for onward travel to Malltraeth.  

The path will connect communities across Anglesey in a green way by creating an accessible stretch for walkers, runners, cyclists, horse riders, while also ensuring disability access to travel in a safe environment, benefitting residents, businesses and visitors.  

It will contribute to the Welsh Government and local Council achieving “healthy living”, and “active-travel” plans, and has the potential for existing and new small businesses to serve the users of the path.


Adfer eich Rheilffordd | Resroring the Railway

Digwyddiadau | Events

Cymerwch ran | Get Involved